Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Tachwedd 2016
Amser: 14.00 -
16.20
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas Alan Morris Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Kate Faragher |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cytunwyd ar y cofnodion.
3.1 Nododd yr Aelodau fod yr ymgynghoriad ysgrifenedig wedi agor heddiw, a'i fod yn dod i ben ar 5 Ionawr 2017.
3.2 Nododd yr Aelodau y digwyddiad i randdeiliaid a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr gyda thenantiaid cymdeithasau tai.
3.3 Cododd yr Aelodau nifer o bwyntiau i holi yn eu cylch yn y sesiynau tystiolaeth.
4.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y Memorandwm Consortia Addysg Rhanbarthol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn yn y gwanwyn 2017.
5.1 Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr hoffai roi sylwadau ysgrifenedig ar yr adroddiad. O'r herwydd, gohiriwyd yr eitem ar gyfer cyfarfod arall yn y dyfodol.
6.1 Croesawodd y Cadeirydd Kate Faragher o Bespokeskills i'r cyfarfod.
6.2 Rhoddodd Kate Faragher adborth i'r Aelodau ar eu rôl fel Aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac ar ffordd y Pwyllgor o weithio yn dilyn ei sesiwn flaenorol a gynhaliwyd fel rhan o raglen gynefino'r Pwyllgor ym Medi 2016.
6.3 Gofynnodd yr Aelodau am sesiwn arall ar eu perfformiad yn haf 2017.